Dewch yn Rhan

Mae Cenhedlaethcoed yn gweithio ar nifer o wahanol lefelau, o’r lefel sylfaenol sy’n helpu grwpiau cymunedol i wireddu cynllun plannu coed trefol hyd at lefel mwy strategol sy’n hyrwyddo coedwigaeth drefol a’u hegwyddorion cyffredinol i wneuthurwyr penderfyniadau.   Mae yna felly nifer o ffyrdd y gallwch chi, fel unigolyn neu fel sefydliad, ddod yn rhan o fenter Cenhedlaethcoed.  Isod cewch rhai o’r ffyrdd i fynd ati:

Cyflwyno cynllun plannu coed.

Mae yna nifer o ardaloedd trefol â photensial mawr ar gyfer plannu coed, p’un ai ar ddarnau bychain o dir y gellid gwella eu golwg gydag ychydig o goed neu ardaloedd mwy eu maint a fyddai’n addas ar gyfer coetir cymunedol.  Os ydych yn byw yng Nghymru, a bod gennych syniad ar gyfer prosiect posibl i blannu coed sydd angen cefnogaeth, mae’n bosibl y gallwn fod o gymorth i chi.

Dod yn bartner

Os ydych chi neu eich sefydliad wedi eich lleoli yng Nghymru, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn dod yn bartner yng Nghenedlaethcoed.  Gall fod eich sefydliad yn rhannu amcanion tebyg i rai Cenhedlaethcoed neu eich bod yn teimlo y byddai ymwneud â  Chenedlaethcoed yn fantais i’ch sefydliad mewn rhyw ffordd arall. Beth bynnag y bo’ch rhesymau, byddai diddordeb gennym glywed oddi wrthych chi. 

Noddi cynllun plannu coed

Yn aml mae ein cynlluniau yn ennill cefnogaeth o amrywiaeth o ffynonellau.  Rydym yn croesawu cefnogaeth noddwyr i’n cynlluniau bob amser, sy’n cynnwys cynlluniau plannu ynghanol trefi a phlannu coetiroedd cymunedol.  Mae rhai o’r cynlluniau hyn yn cynhyrchu cyhoeddusrwydd sylweddol i’r prosiect ac i noddwyr y cynllun.  I drafod cyfleoedd noddi posibl cysylltwch â ni.

Dywedwch wrthym yr hyn rydych yn ei feddwl

. Mae’n bwysig ein bod yn gwybod pa effaith mae ein cynlluniau wedi’i gael ar bobl a chymunedau lleol.  Mae hyn yn ein galluogi i wella’r ffordd rydym yn gweithio.  Efallai eich bod wedi bod ynghlwm wrth un o’n cynlluniau neu eich bod yn byw neu’n gweithio yn agos i gynllun plannu Cenhedlaeth coed.  Os felly, hoffem glywed eich barn ar gynlluniau tebyg, a pha effaith maent wedi’i gael arnoch chi fel aelod o’r gymuned leol.  

Mae nifer o fanteision posibl i’w hennill o fod ynghlwm wrth fenter Cenhedlaethcoed.  I drafod ffyrdd eraill o ddod yn rhan o Genhedlaethcoed, cysylltwch â ni.