SUT y daw manteision i ardaloedd trefol drwy Cenhedlaethcoed?

Mae Cenhedlaethcoed yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac adrannau yn asiantaethau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, grwpiau amgylcheddol a chymunedol a mudiadau eraill.  Drwy godi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd coed a choetiroedd mewn datblygiadau trefol chynlluniau adfywio, rydym yn gweithio i sicrhau bod coed a choetiroedd yn chwarae rhan fwy canolog mewn mentrau cyffelyb. 

Trwy ddarparu cyngor ac ariannu ar gyfer plannu coed, gall Cenhedlaethcoed gynnig cyfle i amrywiaeth eang o grwpiau a mudiadau wella ansawdd eu hamgylchoedd.  Drwy gymryd agwedd gymunedol-ganolog wrth gynllunio, cyflwyno a chynnal a chadw cynlluniau i blannu coed, ein nod yw sicrhau bod ein cynlluniau yn bodloni anghenion a disgwyliadau eu cynulleidfa darged a, lle bynnag y bo modd, yn cyfrannu at ddatblygiad cymunedol.  Canlyniad y dull hwn, yn amlach na pheidio, yw gwell manteision a chynlluniau plannu coed sy’n fwy cynaliadwy.

Am enghreifftiau sy’n dangos sut y daw manteision i ardaloedd trefol drwy Cenhedlaethcoed, ewch i adran PROSIECTAU.