Croeso i dudalen hafan Cenhedlaethcoed.

Cefndir

Prosiect coedwigaeth drefol yw Cenhedlaethcoed, wedi ei sefydlu i helpu gwella ardaloedd trefol yng Nghymru drwy roi cyngor a chefnogaeth, gan gynnwys ariannu, ar gyfer plannu coed trefol.   Sefydlwyd y prosiect yn gyntaf yn 2003, pan aeth cynrychiolwyr o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru at nifer o sefydliadau yn rhanbarth gogledd ddwyrain Cymru i greu partneriaeth. Yn 2004 cyflogwyd swyddog prosiect er mwyn datblygu mwy ar y prosiect ac i gyd-lynu’r gwaith o gyflawni’r cynlluniau plannu coed trefol.

Y cyfnod arbrofol

Ar hyn o bryd mae’r prosiect mewn cyfnod arbrofol yn siroedd Wrecsam a Fflint yng ngogledd ddwyrain Cymru.  Golyga hyn, gwaetha’r modd, na allwn gefnogi prosiectau y tu allan i’r ardaloedd hyn ar hyn o bryd.  Os llwyddir i sicrhau arian ychwanegol, gobeithiwn weithredu ar draws Cymru.

Nod y cyfnod arbrofol yw dangos potensial Cenhedlaethcoed i gyfrannu’n gadarnhaol tuag at adfywiad trefol a datblygiad cynaliadwy ar draws Cymru.  Felly bydd mwyafrif y prosiectau a gyflawnir yn ystod y cyfnod arbrofol yn brosiectau enghreifftiol sy’n cynorthwyo darparu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol dros ystod eang o leoliadau trefol.

Beth yw Coedwigaeth Drefol?

Mae coedwigaeth drefol yn golygu cynllunio, plannu a chynnal a chadw coed mewn ardal drefol.  Mae coedwig drefol yn cynnwys yr holl goed sy’n tyfu mewn tref neu ddinas, gan gynnwys coed mewn gerddi preifat, parciau cyhoeddus, coetiroedd, ar hyd min y ffyrdd ac yn unrhyw ddarn arall o dir beth bynnag bo ei faint. Mae coedwigaeth drefol yn ymwneud ag amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys asiantaethau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, busnesau preifat, grwpiau amgylcheddol a chymunedol.   

Heb goedwigaeth drefol byddai trefi yn edrych ac yn teimlo yn wahanol iawn.  Yn sgil fforestydd trefol daw bywyd i’r trefi ac mae’n help i dorri ar strwythur unffurf ardaloedd adeiledig sydd, ymhlith pethau eraill, yn gallu hyrwyddo gwell ymdeimlad o hunan-les.  Felly mae fforestydd trefol yn helpu cynnal a gwella ansawdd bywyd mewn ardaloedd trefol.  Am fwy o wybodaeth ar sut mae fforestydd trefol yn cyfoethogi ein bywydau,  cliciwch fan hyn .