Prosiectau

Mae Cenhedlaethcoed yn cefnogi ystod eang o brosiectau plannu coed trefol, yn amrywio o brosiectau sy’n seiliedig yn y gymuned fel cynlluniau plannu coed gan ysgolion i wellia adeiladau busnes.  Bu’r prosiect hefyd ynghlwm wrth adfer ar raddfa fawr a chynlluniau i wella canol trefi. 

Mae lefel ymrwymiad Cenhedlaethcoed i’r cynlluniau yn amrywio.  Rydym wedi ariannu’n rhannol brosiectau a reolwyd gan sefydliadau allanol, wedi cychwyn a rheoli’r prosiect o’r camau cynllunio i’w terfyn neu wedi dim ond dylunio manylebau plannu a chynnal a chadw ar gyfer cynlluniau plannu coed oedd yn ffurfio un rhan o brosiect gwelliannau ffisegol llawer mwy.

Am fwy o wybodaeth am rai o’r cynlluniau a gefnogwyd gan Cenhedlaethcoed (neu sy’n cael eu cefnogi ar hyn o bryd), cliciwch ar un o’r cysylltiadau cyfatebol.  At ddiben y wefan hon, mae’n cynnwys nifer fechan o gynlluniau fel enghreifftiau.  Yn mwyafrif yr achosion, mae prosiectau ychwanegol wedi cael eu gwireddu ym mhob categori.  Am fwy o wybodaeth am brosiectau eraill Cenhedlaethcoed, cysylltwch â ni.