PAM mae angen Cenhedlaethcoed?

Gall rhoi coedwigaeth drefol ar waith fod yn broses anodd ar adegau. Yn aml mae natur gymhleth yr amgylchedd trefol yn cyflwyno problemau sydd angen eu goresgyn yn gyntaf cyn i blannu coed trefol gael ei wireddu.  Mae materion fel teledu cylch cyfyng, gwasanaethau o dan ac uwchben y ddaear a llygredd ond yn rhai o’r problemau y deuir ar eu traws yn aml mewn ardaloedd trefol.   Yn y gorffennol, mae’r materion hyn wedi rhwystro cynlluniau plannu coed trefol rhag mynd yn eu blaenay, ac o ganlyniad collir cyfleoedd i wella ansawdd bywyd mewn ardaloedd trefol.

Mae Cenhedlaethcoed yn helpu goresgyn y rhwystrau hyn drwy gynnig y cyngor a’r cefnogaeth iawn i unigolion a sefydliadau er mwyn sicrhau bod y coed cywir yn cael eu plannu yn y lleoliad cywir.  Mae llawer o dir yn cael ei danddefnyddio, ei esgeuluso ac yn ddiffaith yn y Gymru drefol, ac mae angen agwedd safonedig mwy  cydlynol tuag at blannu coed trefol.  Mae cael un man cyswllt sy’n cynnig y cyngor diweddaraf ynglŷn â’r arfer gorau mewn plannu coed trefol yng Nghymru yn sicrhau bod y cynlluniau hynny sy’n cael eu cyflwyno o safon uchel yn rheolaidd, ac yn dangos yr arfer gorau a chynaladwyedd.

Rhwystr arall sydd yn aml wedi atal plannu coed trefol yw diffyg cefnogaeth ddigonol neu gymhelliad, gan gynnwys ariannu.  Mae cynlluniau grant coed a choetir sydd eisoes mewn bodolaeth, fel cynllun ‘Gwell Coetiroedd i Gymru’ Comisiwn Coedwigaeth Cymru   (Cynllun Grant Coetiroedd gynt), yn canolbwyntio’n bennaf ar ardaloedd gwledig ac nid ydynt yn gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer nifer o nodweddion lleoliadau sydd i’w cael mewn ardaloedd trefol.  Trwy gynnig cymorth grant tuag at gynlluniau plannu coed trefol, mae Cenhedlaethcoed yn galluogi plannu coed mewn ardaloedd a oedd yn flaenorol yn anghymwys ar gyfer eu hariannu.